Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Mai 2022
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price - Clerc y Pwyllgor
Ross Davies – Dipwrwy Glerc
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Pwyllgor bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd
ymddiheuriad gan Luke Fletcher AS.
Dirprwyodd Heledd Fychan AS ar ran Luke Fletcher AS yn y
cyfarfod.
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chydnabod y pryderon gwirioneddol a gododd y deisebydd. Er nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â’r ddeiseb, cytunwyd ei bod yn bwysig tynnu sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y pryderon ac ymateb y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater.
Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau hefyd i wneud y canlynol:
2.2 P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd bod hwn yn fater hynod emosiynol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu'n ôl at y Prif Weinidog yn gofyn iddo roi ymateb wedi'i ddiweddaru i'r Pwyllgor gan fod y wybodaeth ddiweddaraf am rôl Prif Weinidog y DU ynghylch y cylch gorchwyl wedi dod i law.
2.3 P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig sydd wrthi’n cynnal adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, i ofyn a oedd modd trafod y materion a gododd y ddeiseb fel rhan o’r gwaith hwnnw.
2.4 P-06-1268 Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi'u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy'n rhoi unigolion dan anfantais annheg
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i wneud y canlynol
ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn pam nad yw’r canllawiau i gefnogi’r gwaith o ddarparu Cymru’r Dyfodol wedi’u cyhoeddi eto i gefnogi’r broses gwneud penderfyniadau ac i gael eglurhad ar yr amserlen i’w cyhoeddi.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb y Gweinidog a oedd yn tynnu sylw at gynnydd y Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) a bod swyddogion yn ymgysylltu â Defra ar y mater hwn. Yn sgil y gwaith parhaus ar y mater, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.2 P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa wrth aros am ail gyfnod yr adroddiad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
3.3 P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n parhau i fod yn gynghorydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf tan ddiwedd y dydd ar 9 Mai 2022
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o gofio ymateb cadarn y Gweinidog bod y fframwaith polisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig presennol yn darparu digon o amddiffyniad, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd, ac annog Aelodau unigol o'r Senedd i fynegi pryderon pan fyddant yn codi.
3.4 P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am adolygiad o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gwarchod bioamrywiaeth ond nad oes ganddi gynlluniau i wneud hynny ar hyn o bryd, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i nodi barn Heledd Fychan AS, o gofio’r gydnabyddiaeth o’r angen i adolygu deddfwriaeth, y dylai ddigwydd fel rhan o’r ymateb i’r argyfwng hinsawdd, natur a bioamrywiaeth.
3.5 P-06-1218 Hysbysu pob person 18 oed sydd wedi derbyn gofal cymdeithasol fod ganddynt yr hawl i wneud cais am eu gwybodaeth bersonol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i'r Pwyllgor gael copi o'r llythyr ar ôl iddo gael ei anfon i bob awdurdod lleol.
3.6 P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o’n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, yn sgil y dystiolaeth a ddaeth i law nad ystyrir bod barbeciws untro yn broblem enfawr o safbwynt diogelwch tân, ac y byddai’n anodd gorfodi gwaharddiad, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi'r mater a chau’r ddeiseb.
Wrth wneud hynny, anogodd y Pwyllgor bobl Cymru ac unrhyw un sy’n dod i ymweld yr haf hwn i ddefnyddio barbeciws untro mewn ffordd ddiogel, a’u gwaredu’n briodol, gan sicrhau mai diogelwch sydd bwysicaf, ac y gall pawb fwynhau’r parciau cenedlaethol a’n gwarchodfeydd natur a’n traethau bendigedig ar draws Cymru.
3.7 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
Rhoddodd Steven Williams, Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion, drosolwg o ymgysylltiad diweddar â rhieni ar draws Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan rannu rhai o’r themâu allweddol y tynnwyd sylw atynt. Diolchodd i'r 24 o unigolion a gyfrannodd a rhannu eu profiadau, a oedd yn aml yn anodd. Rhannodd Jack Sargeant AS a Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ac aelod o’r Pwyllgor, eu profiad diymhongar o wrando ar rieni â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu cefnogi gan Voices from Care a diolch iddynt am eu hamser ac am rannu eu profiadau.
Mae'r Pwyllgor wedi gwahodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfarfod yn y dyfodol.
4.1 P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru
Nodwyd y papur.
4.2 P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb
Nodwyd y papur.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 6 o’r cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafodaeth ar yr Adroddiad Blynyddol drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno ar rai mân newidiadau. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.